Children (#13330)

O Dduw, arwain fi, gwarchod fi, gwna fi yn lamp olau a seren ddisglair. Ti yw'r Nerthol a'r Grymus.

-`Abdu'l-Bahá
-----------------------

Children (#13328)

O Dduw!  Maga'r baban hwn ym mynwes Dy gariad a rho laeth iddo o fron Dy Ragluniaeth.  Tyfa'r planhigyn ffres hwn yn ngardd rosynnau Dy gariad a chynorthwya ef i dyfu trwy gawodydd Dy haelioni.  Gwna ef yn blentyn y deyrnas, ac arwain ef i'th fröydd nefol Di.  Yr wyt Ti yn rymus ac yn garedig, a Thi yw'r Rhoddwr, yr Hael, Arglwydd yr haelioni dihafal.

O God! Rear this little babe in the bosom of Thy love, and give it milk from the breast of Thy Providence. Cultivate this fresh plant in the rose garden of Thy love and aid it to grow through the showers of Thy bounty. Make it a child of the kingdom, and lead it to Thy heavenly realm. Thou art powerful and kind, and Thou art the Bestower, the Generous, the Lord of surpassing bounty.

-`Abdu'l-Bahá
-----------------------

Children (#13329)

O Dydi Arglwydd digymar! Bydded i'r plentyn sugno hwn ei fagu o fron Dy drugaredd, amddiffyn ef o fewn crud Dy ddiogelwch a'th nawdd, a bydded iddo gael ei fagu ym mreichiau Dy gariad tyner.

O Thou peerless Lord! Let this suckling babe be nursed from the breast of Thy loving-kindness, guard it within the cradle of Thy safety and protection and grant that it be reared in the arms of Thy tender affection.

-`Abdu'l-Bahá
-----------------------

Children (#13331)

O Dduw! Addysga'r plant yma. Y plant yma yw planhigion Dy berllan, blodau Dy ddôl, rhosynnau Dy ardd. Gad i'th wlaw ddisgyn arnynt; gad i Haul Gwirionedd dywynnu arnynt gyda'th gardiad. Gad i'th awel fwyn eu hadfywio fel iddynt gael hyfforddiant, tyfu a datblygu ac ymddangos yn yr harddwch eithaf. Tydi yw'r Rhoddwr. Tydi yw'r Trugarog.

O God! Educate these children. These children are the plants of Thine orchard, the flowers of Thy meadow, the roses of Thy garden. Let Thy rain fall upon them; let the Sun of Reality shine upon them with Thy love. Let Thy breeze refresh them in order that they may be trained, grow and develop, and appear in the utmost beauty. Thou art the Giver. Thou art the Compassionate.

-`Abdu'l-Bahá
-----------------------

Children (#13332)

O Arglwydd Caredig!  Plentyn bach wyf fi, dyrchafa fi trwy fy nerbyn i'r deyrnas.  Daearol wyf fi, gwna fi'n nefol; o'r byd islaw rwyf fi, gad i mi berthyn i'r deyrnas uwchlaw; yn dywyll drist, caniata i mi fod yn ddisglair; yn faterol, gwna fi yn ysbrydol, a chaniata i mi amlygu Dy roddion diderfyn.  
Ti yw'r Grymus, yr Holl-Gariadus.

O Thou kind Lord! I am a little child, exalt me by admitting me to the kingdom. I am earthly, make me heavenly; I am of the world below, let me belong to the realm above; gloomy, suffer me to become radiant; material, make me spiritual, and grant that I may manifest Thine infinite bounties.

Thou art the Powerful, the All-Loving.

-`Abdu'l-Bahá
-----------------------

Children (#13333)

O fy Arglwydd! O fy Arglwydd!  Plentyn bychan ydwyf fi.  Rho faeth i mi o fron Dy drugaredd, hyffordda fi ym mynwes Dy gariad, addysga fi yn ysgol Dy arweiniad a datblyga fi yng nghysgod Dy haelioni.  Achub fi o'r tywyllwch, gwna fi'n olau disglair; rhyddha fi o anhapusrwydd, gwna fi'n flodyn o'r ardd rosynnau; caniata i mi fod yn was Dy riniog a rho i mi ymagwedd a natur y cyfiawn; gwna fi yn achos llawnder i'r byd dynol a chorona fi â choron bywyd tragwyddol. 
Yn wir, Ti yw'r Grymus, y Cryf, y Gweledydd, yr Un-sy'n-clywed.

O my Lord!  O my Lord!  I am a child of tender years. Nourish me from the breast of Thy mercy, train me in the bosom of Thy love, educate me in the school of Thy guidance and develop me under the shadow of Thy bounty! Deliver me from darkness, make me a brilliant light; free me from unhappiness, make me a flower of the rose-garden; suffer me to become the servant of Thy Threshold and confer upon me the disposition and nature of the righteous ones; make me a cause of bounty to the human world and crown my head with the diadem of eternal life!
Verily, Thou art the Powerful, the Mighty, the Seer, the Hearer!

-`Abdu'l-Bahá
-----------------------

